|
CROESO I YSGOL GYMUNEDOL CWMTAWE
Mae Cwmtawe yn ysgol gyfun lwyddiannus ar gyfer disgylion rhwng 11 a 16 oed ym mhen uchaf cwm Tawe.
Rydym yn ysgol flaengar sy’n darparu amgylchedd dysgu lle gall disgyblion wireddu eu potensial. Datblygant yn unigolion hyderus ac annibynnol â chanddynt uchelgais gadarn.
Mae yma staff ymroddedig, adnoddau modern a gofal bugeiliol o’r safon uchaf sy’n cynnig addysg gyflawn o’r radd flaenaf. Mae ein rhaglen gyson o nosweithiau rhieni, nosweithiau agored a digwyddiadau arbennig yn atgyfnerthu ein partneriaeth agos gyda rhieni a’r gymuned ehangach.
Rydym yn croesawu disgyblion o tu allan i’n prif ddalgylch os oes yna lefydd ar gael. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i ’r ysgol i weld yr holl adnoddau sydd yma cysylltwch â ’r Prifathro ar 01792 863200. |